Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 1 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 1 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Fe glywais dy fod yn awyddus i allu gweithio englyn cywir. O'r gorau, rwy'n fodlon garantïo y dysgi di'n ddigon didrafferth, os bodloni di ar ddysgu'n bwyllog. Ond yr wyf am roi un rhybudd bach i chdi ar y dechrau fel hyn: pan fyddi di wedi dysgu digon i deimlo'n siwr bod dy englyn di'n gywir, paid â thybio dy fod yn gwybod digon i dystio bod englyn rhywun arall yn anghywir. Weli di, y mae'n bosib bod dy gyfaill yn gwybod am rai goddefiadau, ac yn y blaen, na ddysgaist ti amdanyn nhw. Y fargen yr ydw i'n ei chynnig i chdi ydy dy wneud yn englynwr cywir dy hunan, ac nid o reidrwydd yn feirniad diogel ar waith pobl eraill.

Wrth gwrs, yr ydw i'n cymryd yn ganiataol dy fod yn gwybod beth ydy cytsain (consonant) a beth ydy llafariad (vowel). Yn awr, i bwrpas gwneud englyn, y mae'r w a'r i, hyd yn oed pan fônt yn gytseiniaid, i'w cyfrif fel llafariaid. Nid yw yr h, fel y cyfryw, i'w chyfrif fel y naill na'r llall: gelli anghofio am ei bodolaeth hi, druan! Ymhellach, pan ddaw n ar ddechrau llinell fe gei di ei hanwybyddu hithau hefyd.

Ac wrth gwrs fe wyddost beth yw sillaf (syllable). Fel rheol, yn y Gymraeg, y mae'r sillaf olaf ond un mewn gair yn cael ei hacennu'n drwm, a'r olaf yn ysgafn fel yn y gair tristwch. Ond nid felly yn ddieithriad chwaith: sylwa ar y gair tristáu, er enghraifft. Rwy'n dychmygu dy glywed yn achwyn: "Ond, Wil bach, yr wyt ti'n fy nhrin fel plentyn!" Digon gwir, ond fe gei di weld pan fyddi di'n llithro gyda'th gynigion cyntaf mai gyda'r pethau plentynaidd fel yr acen y byddi di'n methu fynychaf.

Fel y gwyddost, y peth pwysicaf gyda barddoni rhydd, fel barddoni'r Saeson, yw'r rhythm, ond i wneud englyn gelli fforddio anghofio hyn oll a gadael i'r gynghanedd ofalu am ei rhythm ei hunan heb ddim o'th help di. Ond rhaid iti ofalu gyda'r odli oherwydd y mae gwahaniaeth rhwng odli'r Saeson ac odli ein canu rhydd ni, ac ymhellach, y mae gwahaniaeth rhwng ein odli rhydd ni a'n hodli cynghanedd ni. Yn Saesneg, wele odlau cywir : cat, mat, hat. Yn Gymraeg gellir odli yn yr un dull: llon, ffon, sbon. Yn Saesneg dyma iti ragor o odlau cywir: borrow, sorrow, morrow. Yn Gymraeg gellir defnyddio'r un dull yn union: telyn, melyn celyn. Ond y ffordd gyffredin yn y Gymraeg yw odli'r sillaf olaf yn unig, y ddiacen: telyn, gwenyn, mochyn. Nid yw'r Saeson yn cyfrif hyn yn odli o gwbl, a dyna'r unig wahaniaeth rhwng y Sais a'r Cymro pan fo'r ddau'n defnyddio mesurau rhydd.

Pan fo Cymro'n defnyddio'r gynghanedd, gall odli y sillaf ddiacen gyda sillaf acennog: gwyn, telyn; llon, cynffon; brenin, gwin.

Dyna ni bellach yn barod i gychwyn yn iawn; a chofia, Gwern, wrth nodi'r prif elfennau byddaf yn symud ymlaen heb aros i graffu ar bob mân eithriad a goddefiad. Da chdi, darllena'r neges hon yn ofalus, fel y gallwn fwrw iddi o ddifri y tro nesaf.

Hwyl

Wil Ifan
Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 34 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo