Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 2 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 2 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Yr ydw i am dy gyflwyno heddiw i Marged Morgan. Cofia, dydw i ddim am i chdi wneud dim mwy â hi nag edrych ar ei henw: Marged Morgan. Sylwa fod y ddau air o ran nifer eu sillafau a'u haceniad yr un fath yn hollol. Maen nhw hefyd yn cynganeddu â'i gilydd yn berffaith. A dyma i chdi pam:

(a) Mae llafariaid y ddwy sillaf acennog yn wahanol i'w gilydd, a ac o

(b) Mae llafariaid y ddwy sillaf ddiacen yn wahanol i'w gilydd, e ac a

(c) Mae'r cytseiniaid o flaen y ddwy sillaf acennog yr un fath, m

(ch) Mae'r cytseiniaid rhwng y sillafau acennog a'r di-acen yr un fath, rg

(d) Mae'r cytseiniaid ar ôl y sillafau diacen yn wahanol i'w gilydd, d ac n

Dyna i chdi bum pwynt y bydd yn rhaid i chdi eu cofio wrth siarad gyda Marged Morgan. Un o ferched y Ty-croes ydy hi. Hynny ydy, mae'r math yma o gynghanedd yn cael ei galw'n gynghanedd Groes. Fe gei di gyfarfod eto â rhai o breswylwyr eraill Ty-croes, ond am y tro, rho dy sylw i gyd i Marged Morgan.

Gofala i ddechrau bod y ddau air yr un fath â'i gilydd o ran rhif eu sillafau a'u haceniad. Ac yna gwylia'r pum pwynt. O ran y pwynt olaf, fe fyddai'n hollol gywir cael unrhyw gytsain i ateb lle nad oes cytsain o gwbl yn niwedd y sillaf a atebir: er enghraifft fe fyddai caru Ceiriog yr un mor gywir â carwr Ceiriog. Yr un modd hefyd byddai tywydd tawel yn gywir am nad oes cytsain yng nghanol y naill na'r llall.

Bellach, dyna Marged Morgan a chdithau yn deall eich gilydd i'r dim, gobeithio.

Hwyl am y tro,

Wil Ifan
< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 25 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo