|
Awdur: Y Prif Gopyn
|
|
12 : 06 : 2005 |
Annwyl Gwern,
Fe soniais i'r tro diwetha' am Marged Morgan, ond nid y hi ydy'r unig un sy'n byw yn Nhy-croes. Beth am Bob Bach? Mae dwy ran ei enw ef hefyd yn ateb ei gilydd i'r dim, y ddwy yn un sillaf ac yn acennog. Tri pheth yn unig sydd angen eu cofio wrth drin Bob Bach, sef:
(a) Y llafariaid yn wahanol, o ac a (b) Y cytseiniaid o flaen y llafariaid yr un fath, b (c) Y cytseiniaid ar ô1 y llafariaid yn wahanol, b ac ch
A dyna Tim Tomos wedyn. Un o fechgyn Ty-croes ydy yntau hefyd, a chystal hawl i'r aelwyd â Marged Morgan a Bob Bach bob blewyn. 0nd edrycha ar ddwy ran ei enw ef. Y maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd: Tim yn un sillaf acennog, Tomos yn ddwy sillaf, y gyntaf yn acennog a'r ail yn ddiacen. Dyma'r tri phwynt wrth ei drin ef:
(a) Y llafariaid acennog yn wahanol, i ac o (b) Y cytseiniaid o flaen y llafariaid hyn yr un fath, t (c) Y cytseiniaid ar ô1 y llafariaid hyn yr un fath, m ac m
Dyna chdi bellach yn nabod y tri sydd â chyflawn aelodaeth ar aelwyd Ty-croes. Y mae gen i ddau arall sy'n rhyw hanner-perthyn, ond mi ga i sôn amdanyn nhw rywbryd eto.
Pan fyddi di'n ansicr ynglyn â'r gynghanedd Groes hola i ddechrau p'un o'r tri math ydyw; Marged Morgan, Bob Bach, neu Tim Tomos? Wedi penderfynu ar hynnny, cofia fod Marged i sefyll pum prawf, Bob a Tim bob i dri.
Hwyl am y tro
Wil Ifan |