Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 4 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 4 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Fe wnes i dy adael y tro diwetha' ar aelwyd Ty-Croes yng nghwmni Marged Morgan, Bob Bach a Tim Tomos. Rwy'n gobeithio dy fod wedi llunio ugeiniau o gynganeddion pert erbyn hyn.

Fel yr awgrymais yn yr e-bost diwetha', mae dau hanner-perthynas i Marged, Bob a Tim yn byw yn y gymdogaeth, ond dydw i ddim am sôn amdanyn nhw heddiw. Yn hytrach, fe awn ati i geisio gosod y parau geiriau mewn llinellau o hyd neilltuol, gan ganolbwyntio ar linellau saith sillaf.

Fe ddechreuwn ni gyda Marged Morgan. Os gosodir Marged i gychwyn llinell a Morgan i'w gorffen, gellir llanw canol y llinell gydag unrhyw dair sillaf. Fel hyn, er enghraifft:

Marged yw croten Morgan
Marged merch iengaf Morgan.


Y mae'r tair sillaf yn y canol yn hollol ddi-gynghanedd. Mewn un ystyr maent yn bwrw ar draws pethau. Felly, er bod y ddau air Marged a Morgan gyda'i gilydd yn ffurfio cynghanedd Groes, fe sonnir am y llinell gyfan fel llinell o gynghanedd Draws.

Os wyt ti am osod cytsain neu gytseiniaid o flaen Marged y mae iti berffaith hawl i wneud hynny, dim ond i chdi gofio bod yr un gytsain neu gytseiniaid i ymddangos hefyd o flaen Morgan, a hynny yn yr un drefn. Er enghraifft:

Os Marged yw Miss Morgan
Gan Marged roedd gwn Morgan


Petaet yn ateb pob cytsain o flaen Morgan yn ail hanner y llinell gyda'r un cytseiniaid o flaen Marged yn yr hanner cyntaf, yna fe weli nad oes dim di-gynghanedd yng nghanol y llinell. Gellir galw yr holl linell felly yn llinell o gynghanedd Groes. Nid yw mwyach yn Draws. Er enghraifft:

Gweld Marged, golud Morgan,
Ger Marged, gwyrai Morgan.


Ambell dro fe gei di rywbeth yn debyg i hyn:

Dos Marged i sioe Morgan

Y mae'r d yn Marged yn gorffen hanner cynta'r llinell a hefyd yn cychwyn yr ail hanner, gan ateb y d ar ddechrau'r hanner cyntaf: mae'n cysylltu'r ddau hanner yn dynn wrth ei gilydd. Dywedir bod y llinell, felly, nid yn unig yn Groes ond yn Groes o Gyswllt.

Os cofi di drin Bob Bach a Tim Tomos yn yr un modd â Marged Morgan, go brin y cei di unrhyw drafferth.

Cofion fil

Wil Ifan

 

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 33 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo