Hysbysebwch
  Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 5 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 5 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Cyn symud ymlaen, yr ydw i am i bopeth fod yn glir. Fel enghraifft o gynghanedd Groes fe enwais Marged Morgan. Mewn gwirionedd fe fyddai Arged Morgan yn gynghanedd gywir hefyd: ond nid cynghanedd Groes oherwydd bod yr M yn yr ail hanner heb ei hateb yn yr hanner cyntaf. Y mae'r M sydd heb ei hateb yn troi'r llinell fach yn gynghanedd Draws. Yr un fath yn hollol gyda Bob a Tim. Ni fyddai Ob Bach ac Im Tomos yn gynganeddion anghywir ond ni fyddai lle iddyn nhw ar aelwyd Ty-Croes. Y mae'r S a'r T ynghanol y llinellau yn eu troi yn Draws.

Ond hyd yn oed pan fo'r llinellau yn Draws mae modd meddwl amdanyn nhw yn nhermau Marged Morgan, Bob Bach neu Tim Tomos wrth sylwi ar ffurf y geiriau a gynganeddir.

Cynllun go dda ydy cymryd ambell linell o gynghanedd Groes neu Draws, a gosod o dani p'un yw hi ac i ba un o'r teulu y mae'n perthyn.

Er enghraifft, yn Beibl i bawb o bobl y byd, bawb a byd ydy'r ddau air sy'n cau'r ddau hanner, ac y maen nhw'n amlwg yn perthyn i Bob Bach. Ar ben hynny, gan fod pob cytsain sy'n dod o flaen byd yn yr ail hanner yn cael ei ateb yn yr hanner cyntaf y mae'n llinell o gynghanedd Groes.

Beth am O ba radd y bo'i wreiddyn? Dyma Groes arall, ond o edrych ar radd a wreiddyn fe welir mai i deulu Tim Tomos y maen nhw'n perthyn.

Wrth edrych ar linell fel Crog glychau'r creigle uchel efallai y byddi di'n tybio nad ydy uchel yn llwyr ateb glychau am nad oes gl ar gychwyn y gair fel yr M yn Marged Morgan, ond o wrando'n fanylach, fe glywi di bod y ddwy gytsain yn ddiogel yn y gair creigle. Felly i lawr â hi fel Croes sy'n perthyn yn agos i Marged Morgan.

Nawr ‘te Gwern, beth am y llinellau isod? Croes neu Draws? Marged, Bob neu Tim?

Meirion sydd yma i aros
Meuryn mawr yw Meirion mwy
Yn y môr mae cân Meirion


Bydd wych

Wil Ifan

 

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 21 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo