Hafan arrow Gwersi arrow Gweithio englyn gyda Wil Ifan arrow E-bost gan Wil Ifan 6 01 : 12 : 2008 
Prif ddewislen
Hafan
E-steddfod 2008
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif
Ymaelodi
Er mwyn gallu cyfrannu at gynnyrch yr annedd, mae'n rhaid cofrestru. I wneud hynny, clicia ar y ddolen Creu Cyfrif yn y blwch uchod a dilyna'r cyfarwyddiadau. Mae'n broses chwim sy'n costio dim!
Calendr Digwyddiadau
Rhagfyr 2008
Ll Ma Me I G Sa S
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31 1 2 3 4
Manylion y mis hwn
Ionawr 2009
Ll Ma Me I G Sa S
2930311 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1
Y mis nesaf
5 seiadwr diwyd
disgybl (243 cyfraniad)
hysbys (220 cyfraniad)
yprifgopyn (157 cyfraniad)
blobby (156 cyfraniad)
sioncyn (145 cyfraniad)
E-bost gan Wil Ifan 6 PDF Argraffu E-bost
Awdur: Y Prif Gopyn   
12 : 06 : 2005
Annwyl Gwern,

Dyma ni bellach yn weddol barod am y fwyaf diddorol o'r cynganeddion efallai, y Gynghanedd Sain. Yr un elfen sy'n gwahanu'r sain oddi wrth y draws a'r groes ydy'r defnydd o odl o fewn y llinell. Fel arfer, fe fyddwn yn meddwl am odl fel cynffon i'n llinellau, ond yn y gynghanedd sain odl fewnol sydd gennym.

Beth am i ni droi'n ôl at Marged Morgan, dy gariad cyntaf. Gosoda air yn rhywle o flaen Marged sy'n odli â hi, a dyna i chdi gynghanedd Sain.

Er enghraifft

Ym mhoced Marged Morgan
Beth yw lled Marged Morgan?

Yr un fath gyda Bob Bach

Tipyn o iob yw Bob bach
Hoff o riwbob yw Bob bach

Neu fel hyn gyda Tim Tomos

Mewn dim fe ddaeth Tim Tomos
Mewn denim mae Tim Tomos

Fe gei di osod cytseiniaid rhwng y Marged a'r Morgan os dewisi di, gan droi'r tamaid hwnnw yn Draws, fel

Siocled Marged ferch Morgan

Felly hefyd gyda Bob Bach a Tim Tomos

'Sdim job gan Bob yr un bach
Does dim yn Tim fab Tomos

Fe weli di fod rheolau'r rhan olaf gynganeddol yn union yr un fath â'r rheolau yr wyt ti wedi eu dysgu'n barod wrth edrych ar y Groes a'r Draws: gofala bod odl dda yn rhagflaenu, a dyna chdi ym myd y Sain.

Fe ddywedais fod y rheolau yn "union" yr un fath. Y mae hynny'n berffaith wir, ond yn fy e-pistol nesaf, fe ga i gyfle i sôn am reol arall sy'n gwneud y dasg o ysgrifennu Cynghanedd Sain yn ysgafnach fyth.

Tan hynny

Cofion

Wil Ifan

 

< Blaenorol   Nesaf >
Pôl piniwn y mis
Uchafbwynt Barddol Prifwyl Caerdydd
  
Bardd ar hap
Chwilota Amazon
Chwilota:
In Association with Amazon.co.uk
Y rhai hyn sy'n yr annedd
Mae 26 o westeion ar-lein
Anheddwyr
277 aelod
0 heddiw
1 yr wythnos hon
Diweddaraf: Prydydd y Traed Moch
Taclau defnyddiol
Nod tudalen i'r annedd
Gwneud hafan o'r annedd
Argraffu'r dudalen
Rhannu'r annedd
Ffrwd ar gyfer dy wefan
: Hafan :: E-steddfod 2008 :: Cerddi :: Seiat :: Gweithdy :: Adolygiadau :: Archif :: Polau piniwn :: Diddanwch :: Y Siop Lyfrau :: Gwersi :: Dolenni :: Digwyddiadur :: Yr Hen Annedd :: Chwilota :: Cysylltu :: Cofrestru :
gyrrir gan mambo