Hafan arrow Gweithdy
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Llyfr Ymwelwyr
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif

Gweithdy'r Annedd

Tyrd i mewn gyfaill ond tria beidio â tharfu gormod ar y beirdd; maen nhw wrthi'n ddiwyd yn cyfansoddi ar y cyd. Bob pythefnos neu fis neu flwyddyn (yn dibynnu ar yr awen!), mi fyddant yn dirwyn un gerdd i ben ac yn rhoi un newydd sbon ar waith. Cei olwg ar eu hymdrechion blaenorol trwy ddefnyddio'r blwch llywio isod. Ond fel y gweli, mae cywaith newydd ar y gweill bellach.

I ddathlu'r ffaith y bydd Barddas yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, y nod y tro hwn yw llunio cywydd o foliant yn rhestru beth yn union y mae Barddas yn ei olygu i feirdd yr Annedd. O ran patrwm, mae angen cynnal y cymeriad llythrennol B ar ddechrau pob llinell. Diolch i Sioncyn am yr awgrym.

Beth am i chdithau felly gyfrannu at y cywydd drwy ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen hon i ychwanegu llinell neu gwpled? (Mae'r prif gopyn yn yn cadw'r hawl i gywiro llinellau gwallus a dileu cyfraniadau di-chwaeth!

Cywydd Barddas yn 30

Cyfraniad Sioncyn
Beirdd smart yw Barddas i mi
Cyfraniad golan
Beibil i eiriau Bobi.
Cyfraniad e-dmygydd
Brenin ar lwybrau'r heniaith
Cyfraniad crafwr
Balchder a hyder yr iaith
Cyfraniad Perec
Byw o raid ar hen bryder,
Byw o hyd, wynebu her,
Cyfraniad banciwr
Buddsoddi mewn cerddi caeth
Cyfraniad Jo Blog y Ceiliog Cw^l
Bwrdd i win ein barddoniaeth
Cyfraniad fi
Biwrô i hybu'r awen
Byd hardd lle mae'r bardd yn ben
Cyfraniad Diaghilev
Balerina barhaol
Benysgafn, nid bychan ei bol.
Cyfraniad Dewyrth Bwlgaria
Bwletin ein gwarineb
Cyfraniad D. Ben Draw
Bendith gywir yn nhir neb
Cyfraniad vic
Bedyddfan y gynghanedd
Cyfraniad Glyn Wise
Bywyd dros benyd y bedd
Cyfraniad IKEA
Bwrdd coffi beirdd, a'u cyffur,
Cyfraniad Parch G Owen [Norfolk]
Beirdd a'u can, a beirdd a'u cur;
Beirdd enfys, a beirdd hanfod
Bod a byw, a byw a bod.
Cyfraniad fic
Basged yn llawn cwpledi
Cyfraniad re peate
Beirdd smart yw Barddas i mi
Dy gyfraniad:
Dy enw:
Cyfeiriad e-hebu: