Hafan arrow Gweithdy
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Llyfr Ymwelwyr
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif

Gweithdy'r Annedd

Tyrd i mewn gyfaill ond tria beidio â tharfu gormod ar y beirdd; maen nhw wrthi'n ddiwyd yn cyfansoddi ar y cyd. Bob pythefnos neu fis neu flwyddyn (yn dibynnu ar yr awen!), mi fyddant yn dirwyn un gerdd i ben ac yn rhoi un newydd sbon ar waith. Cei olwg ar eu hymdrechion blaenorol trwy ddefnyddio'r blwch llywio isod. Ond fel y gweli, mae cywaith newydd ar y gweill bellach.

Am y tro cyntaf yn hanes yr Annedd, cywaith comisiwn ydy hwn, felly gofal piau hi! Ar gais Bwrlwm Eryri (prosiect treftadaeth ddiwylliannol), Canolfan Llys Ednowain a Chynllun Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd y nod yw cwblhau cywydd i'r Wyddfa a ddechreuwyd gan neb llai na Hedd Wyn ei hun. Elin Alaw, swyddog Bwrlwm Eryri, sy'n amlinellu'r her:

Yn y llyfr Moi Plas gan J. Ellis Williams, dyfynnir sgwrs rhwng Elis, Yr Ysgwrn (Hedd Wyn) a Moi, Plas Capten, Trawsfynydd. Fel hyn yr â’r sgwrs, gan gychwyn efo geiriau Elis:

“ ’Rydw i wedi cychwyn cywydd i’r Wyddfa …Dyma’r cwpled cynta’ –

Gweled draw o’m briglwyd drig
Fynwes Y Wyddfa unig.

Bewt ti’n feddwl ohono fo?”

“Symol.  Yr Wyddfa sy’n iawn, nid y Wyddfa.   A pheth arall, fedri di ddim gweld Yr Wyddfa o’r Ysgwrn, dim ond ’i brig hi.  Weli di mo’i mynwes hi.”

“Chlywaist ti ddim am ryddid barddonol, dywed? … O’r gora’, mi newidia’ i’r cwpled -

Gweled draw o’m briglwyd drig
Rhyw gorun o oer gerrig.”

Hyd y gwyddom, wnaeth Hedd Wyn ddim parhau gyda’r cywydd, ond does dim i’n rhwystro ni rhag gwneud hynny! Oes gennych chi linell neu gwpled i’w ychwanegu? Beth fyddech chi yn disgwyl ei weld yng nghyffiniau’r Wyddfa? (Cofiwch fod gennym hawl i “ryddid barddonol,” ac y cawn ehangu ein gorwelion tu hwnt i’r olygfa o’r Ysgwrn!)  Gallech gynnwys enwau copaon neu lynnoedd neu gymoedd cyfagos i’r Wyddfa yn eich llinellau, neu gyfeirio at chwedlau, cymeriadau, planhigion, neu anifieiliaid cynhenid i’r ardal

Caiff y cywydd terfynol sylw yn ail Wyl Hedd Wyn ar Fedi 29ain 2007. Am ragor o arweiniad, cliciwch yma.

Diolch i Bwrlwm Eryri am yr her ac am eu hymddiriedaeth yng ngallu beirdd yr Annedd! Cei gyfrannu at y cywaith drwy ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen hon (Fel ag erioed, mae'r prif gopyn yn yn cadw'r hawl i gywiro llinellau gwallus a dileu cyfraniadau di-chwaeth!

Cywydd i'r Wyddfa

Cyfraniad Hedd Wyn

Gweled draw o'm briglwyd drig
rhyw gorun o oer gerrig

Cyfraniad helo
drwy'r niwl yn erydu'r nen
Cyfraniad D. Nod
a rhyw dolc ar ei dalcen
Cyfraniad Bws Sherpa
Daw hwn ar ei rawd o hyd
A gwyr i Ben y Gwryd

(plis neith rhywun ychwanegu cwpled i
ragflaenu hwn er mwyn cyflwyno'r bws
Sherpa??? Diolch!)
Dy gyfraniad:
Dy enw:
Cyfeiriad e-hebu: