Hafan arrow Gweithdy
Prif ddewislen
Hafan
Cerddi
Seiat
Gweithdy
Adolygiadau
Archif
Polau piniwn
Diddanwch
Y Siop Lyfrau
Gwersi
Dolenni
Llyfr Ymwelwyr
Digwyddiadur
Yr Hen Annedd
Chwilota
Cysylltu
Cofrestru
Mewngofnodi
Enw defnyddiwr

Cyfrinair

Cofia fi
Wedi anghofio dy gyfrinair?
Dim cyfrif eto? Creu cyfrif

Gweithdy'r Annedd

Tyrd i mewn gyfaill ond tria beidio â tharfu gormod ar y beirdd; maen nhw wrthi'n ddiwyd yn cyfansoddi ar y cyd. Bob pythefnos neu fis neu flwyddyn (yn dibynnu ar yr awen!), mi fyddant yn dirwyn un gerdd i ben ac yn rhoi un newydd sbon ar waith. Cei olwg ar eu hymdrechion blaenorol trwy ddefnyddio'r blwch llywio isod. Ond fel y gweli, mae cywaith newydd ar y gweill bellach.

Ar drothwy tymor y Nadolig, y nod y tro hwn yw llenwi'r hosan, a hynny ar ffurf cywydd gyda'r cymeriad llythrennol h. Diolch i bebo am osod yr her. Defnyddia'r ffurflen ar waelod y dudalen hon i ychwanegu llinell neu gwpled at y cywaith. (Fel ag erioed, mae'r prif gopyn yn yn cadw'r hawl i gywiro llinellau gwallus a dileu cyfraniadau di-chwaeth!

Cywydd 'H' am Hosan

Cyfraniad Bebo

Hosan braf a fynnaf i
Hosan lawn, lawn, eleni,
Hosan yn gwegian i gyd,
Hosan yn hafan hefyd
Hosan yn llawn diddanwch...
Hances les mewn siaced lwch

Cyfraniad Yr Hen Bants
Harmoniwm rhyw emynydd
Cyfraniad Nofis
Hen ffon a Chaneuon Ffydd
Cyfraniad Ann Hysbys
Hormonau tyner menyw
Cyfraniad Edward Fflandrys
Hwren boeth sy'n arian byw
Cyfraniad Dewyrth B
Hunangofiant ffuantus
Cyfraniad Louis Philippe
Hwch i'r ardd a thei a chrys,
Hoodie rhad, stwff clirio draen
Cyfraniad japs-ai
Helmed yn null Yr Almaen
Cyfraniad mochrith
Hargol, a Llyfr Coch Hergest
Cyfraniad Dai Jôs
Heffer a ficer mewn fest
Cyfraniad Y Brawd Llwyd
'Hanner Cant' (y mae'n llyfr cŵl)
Cyfraniad Dardi ar Goll
Hen gimwch, nen ddi-gwmwl
Cyfraniad Sam Steffan
Holiadur un o'r pleidiau
Cyfraniad ail blentyn
Hud a nwyd i'm gwneud yn iau
Cyfraniad Gleimon Syn
Hawl i fi gael ysgol fach
Cyfraniad Cef 1
Haden o blwy' Llanbradach
'Hapnod - yr hits hanfodol'
Cyfraniad D. Vlastod
Harry Seacombe, botwm bol,
Halen Mon glannau Menai,
Cyfraniad Cardi ar Goll
Had yd, a phastwn i Dai.
Het i Hariet, fy nghariad
Cyfraniad Methiwsalem
Hawl i fyw gan ein Duw Dad
Cyfraniad sbratsblits
Holl annibendod yr hil
Cyfraniad Dim Spam Diolch
Haiku yn null Llanycil
Cyfraniad Dymbl Dôr
Harry Potter a patio
Cyfraniad Jil Glan y Pwrs
Hwrdd a brân a rhyw fardd bro
Cyfraniad jereboam
Horlicks a gwn o Harlem
Cyfraniad Rhodri Glyn
Hofrennydd, gwleidydd di-glem
Cyfraniad mochrith
Helen ac Elen ac Ann
Cyfraniad Dibendraw
Hanner fy ngwallt fy hunan
Cyfraniad wep
Halitosis, letusen
Cyfraniad Breuddwydiwr Ymddiheurol
Hamog werdd, peth eillio’m gen
Heddwch i’n holl wleidyddion
Cyfraniad Thpw Thbo
Hyll, a dehongliad o "Hon",
Cyfraniad Mochrith
Haf boeth, ac Efa a Beth,
Heulwen a Gwen a Gwyneth:
Hynny yw, breuddwyd hen wr
Cyfraniad Fi
Hynny, a byd digynnwr',
Hosan sy'n dra gwahanol
Cyfraniad Y trwsiwr mesur
(Hi hi) eleni, dim lol.
Dy gyfraniad:
Dy enw:
Cyfeiriad e-hebu: