|
|
|
|
Yr ArchifAdar Corff : Twm Morys
MWYALCHEN TEGID (1792-1852), o Fy Ymweliad Olaf â Ioan Tegid,
Yr Haul, 1855. Roedd Ioan Tegid yn ficar yn Nanhyfer, Sir Benfro, adeg ei farw… “Yn ei absenoldeb o’r Eglwys, pan ar ei wely angau, ar fore dydd yr Arglwydd,
tra yr oedd Offeiriad cymmydogaethol yn darllen yn ei le yn Llan Nanhyfer,
boddwyd llais y darllenydd gan fwyalchen a darawai drwy yr Eglwys accen uchel a
pherseiniol yn ddisymwth iawn. Tynnwyd sylw y gwrandawyr at solo anarferol yr
aderyn, megys ag y darfu’r eos gynt ddenu sylw yr hen sant duwiol Dewi; a braidd
y gallasai yr Offeiriad fyned ym mlaen gyd a’r gwasanaeth am ychydig funudau; a
tharawyd pawb â rhyw syndod dieithriol ar yr amser, o herwydd hynodrwydd y
digwyddiad. Ar ôl dyfod o’r Eglwys cafwyd allan mai ar yr amser hwnnw yn gywir yr ehedodd
enaid mawr Tegid o’i gorff i fyd yr ysprydoedd, i ddechrau tôn bereiddiach nag a
allodd ef na chantorion y ddaear erioed ddyrchafu. Nid wyf fi yma, mwy na’r
tystion geirwir a adroddasant yr hanes wrthyf, yn credu mewn coelgrefydd, fel pe
buasai yr aderyn gwedi ei anfon yn gennad goruwchnaturiol i weini ar yr
achlysur. Ac nid wyf ychwaith yn rhyfygu ffugio chwedl mewn perthynas i gyfnod
mor sobr ag awr marwolaeth Tegid; ond yr wyf yn unig yn ysgrifenu y gwirionedd
fel y cymmerodd le, heb unrhyw esponiad arno o’m dychymmyg fy hun, nag eiddo
arall. Eithr yr hyn sydd yn gwneuthur y ffaith yn fwy rhyfeddol yw yr hyn a ganlyn:
Pan yr oedd yr arch a chorff Tegid yn cael eu gostwng i’r bedd, aderyn (pa un ai
yr un ag o’r blaen, nis clywais, ac nis gwn) a esgynodd ar ganghen yn
uniongyrchol uwch ben y bedd agored a’r dorf, a chanodd alarnad angladdol hynod
o ddifrifol ac effeithiol. Onid iawn oedd hyn? Canodd Tegid lawer i’r adar; a
chafwyd un aderyn, o leiaf, mor gymmwynasgar a chydnabod ei ddiolchgarwch, drwy
beroriaethu y farwnad gyntaf, a’r emyn angladdol olaf Tegid”.
|