|
|
|
|
Yr ArchifSôn am biso'n y Bibl (parhad): Alwyn ap HuwGofynna Emyr Lewis: 'Dwn i ddim beth ydi tarddiad gwreiddiol y cwpled yma, ond mae'n werth ei ddyfynu: E biswn pe bai'n bosibl: Oes rhywun yn gwybod?' Mae'n dibynnu pa argraffiad o'r Beibl sydd ar y silff. Dyma'r hyn a ddywed y Parch Tomos Charles yn ei eiriadur enwog: PISO, (pis) troethi, gwneuthyr dwfr. - "Un a biso ar bared". Cylch ymadrodd am wrryw; a busai mor weddus, cyfieithu y geiriau, pob gwrryw, fel yn llawer o gyfeithiadau eraill. 1 Bren 14:10 ; 16; 1 Sam 25:22. Wrth ddiwygio orgraff y Beibl i'r orgraff safonol gweithredwyd ar ddymuniadau Mr Charles a newidiwyd pob cyfeiriad i'r Un a biso ar bared i'r gair Gwr. Yng nghyfieithiad awdurdodedig o'r Beibl yn yr iaith fain ceir "him that pisseth against the wall" o hyd.
|