|
|
|
|
Yr ArchifCerdyn post Parry-Williams 2: Llion JonesPetai'r ddau gefnder, Parry-Williams a Williams Parry yn fyw heddiw, hawdd dychmygu y byddent yn cyfrannu i'r annedd o dan liaws o enwau gwahanol, ac yn herio'i gilydd (a phawb arall o ran hynny) ar gywyddau ac englynion. Yn eu hoes ddi-dechnoleg hwy, fodd bynnag, roedd rhaid bodloni ar gyfrwng y cerdyn post i gellwair ar gynghanedd. Yn yr enghraifft hon, y mae Parry-Williams yn ei idiom ddihafal ei hun yn annog ei gefnder i ymweld â Rhyd-ddu, a hynny ar ffurf dau gwpled o gywydd. Dy' Mowth
I awyr well y bell bau
Ffleia, os byw, at ffwl spid Tom Troed nodyn - "From the sub. to the rid.!"
|