|
|
|
|
Yr ArchifKwnghaneth? : Mei MacAr balmant y Stryd Fawr yn Mhorthmadog dro’n ôl ‘roedd Sais yn gwagio ei siop drugareddau ac yn cynnig llyfrau am ddim. Doedd fawr ddim o werth i’w gael wrth reswm, ar wahân i un gyfrol denau iawn yn dwyn y teitl ‘A String o Blethers (opus 8)’ gan Anthony Conran. Mae’r saith cerdd yn y gyfrol wedi eu sgwennu yn acen yr Alban. Awdl fer ydy’r gerdd olaf a honno ar gynghanedd eitha cywir drwyddi. Dyma hi am ei gwerth: Sabbath Morn Lament Och, Lord, wi fib I’m libbit, I’m nae dab at this clerk’s habit – ma Muse Cribbin frae an office crabbit Tae muckle I greet, wa’s me!– I ken that, Tak here ma Muse frae exile–O my Lord, Cyhoeddwyd y gyfrol gan y bardd ei hun ac fe’i hargraffwyd gan Sackville Printing Works, Bangor ym 1963. Oes rhywun yn gwybod am fwy o gerddi cynganeddol gan Conran? Neu hwyrach oes rhywun yn rhywle yn deall y gerdd?
|