|
|
|
|
Yr ArchifWilliam Sion (parhad): Huw DylanDiddorol oedd cyfraniad Dafydd Alun. Wil Sion Saer o'r Brithdir (ger Dolgellau) oedd y bardd. Fo adeiladodd eglwys y Brithdir (sydd yn adeilad arbenig iawn). 'Roedd yn ddyn crefyddol, yn flaenor yng nghapel Salem. Mi roddodd ei holl oes i'r dasg o adeiladu'r eglwys mewn dull bensaerniol aruchel. Yn anffodus, fodd bynnag, aeth y cyfan yn drech nag o ac yn ysbyty meddwl Dinbych y cyfansoddodd yr englyn. Dyma'r fersiwn a ddysgais i : Uchel nod a osodais, - i gyrraedd Bu farw yn yr ysbyty. Dyma'i englyn olaf felly. I gloi'r hanes mi fu i un o'i berthnasau wneud englyn marwnad iddo yntau, ac er nad ydw i'n gwybod yr englyn yn gyfan, mi wn mai'r linell glo oedd "Yn Salem y noswyliaist".
|