|
|
|
|
Yr ArchifParry-Williams yn diolch am sigârs: Llion JonesEr bod gyrfa T.H. Parry-Williams fel bardd cyhoeddedig yn ymddangos fel pe bai yn dirwyn i ben yn 1954 gyda'r rhigwm cofiadwy 'Bro', daliodd ati i gyfansoddi mewn cywair ysgafnach am flynyddoedd lawer wedi hynny, gan wneud hynny yn amlach na pheidio ar y mesurau caeth yr oedd wedi cefnu arnynt i bob pwrpas yng nghyfnod ei aeddfedrwydd fel bardd. Ymhlith cynnyrch y blynyddoedd diweddar hyn y mae casgliad difyr iawn o gywyddau, englynion a thoddeidiau o ddiolch i'w gyfaill Huw T. Edwards am roddion o sigârs. Dechreuodd yr arfer yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959 pan dderbyniodd lond casged ohonynt. Byr Gywydd Lled Wamal o Ddiolch Sobr
Dyna sioc i hen smociwr
Bu smygu a mygu maith,
(Pan rois un ohonyn' hw
Paragon pob haelioni Dros y saith mlynedd nesaf, daliodd Huw T i bledu Parry-Williams gyda rhoddion o sigârs, a daliodd yntau i ddiolch amdanynt ar gynghanedd. Dyma ddetholiad yn unig o'r llu cyfarchion a luniodd: Llinellau o Ddiolch am Ddau Fwndel o Sigârs
Wel, myn gafr, y mae ffafrau - yn
disgyn
Efo'u mwg 'rwyf wrth fy modd - yn
bwffiwr Eto Byth
O'r hogyn! Fe ddaeth rhagor - o
roliau Englyn Diolch am 'Luosogrwydd' o Sigârs
Gwych gweled mewn siacedi -
fetelog Englyn Ffwr-bwt o Ddiolch
Dwy anwylyd i hen Walia - a
ddaeth,
|