
Fersiwn
'draddodiadol' o bryddest fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Ty Ddewi 2002
Paratowyd gan Nia Powell; cyhoeddir
gyda chaniatâd caredig y bardd.
‘Rhys, beth a ddywedi
amdanat dy hun?’
D.O.
‘These
fragments I have shored against my ruins’
T.S.E.
A b c ch d dd e f ff g ng . . .. . .. . .. . .. . .. . .. . .. . .. . .
...drwy
ffenasd yr ystafell aros Gwelaf Gynion yr awelon Yn dobio Marmor y cymylau... Cymylau’n fochau Yn weflau Yn bidlan lipa (Shht!) |
|||
Yn |
(Sbiwch ar ‘i gyrls o!) | ||
Cwmwl
o dîn mewn jîns tynn Yn ben shampw Yn flewiach mân corun cemotherapi |
|||
| Nabod ni? Pnawn ma! | |||
| Drycha
yn fan’cw! Weli di yng ngododdin y cymyl vn mab marro? Yn ieuengo Yn heneiddio Yn madru Ym Mynd a dwad Bôn braich Michaelangelo’r AwelonYr awelon sy’n styrbio lliwiau ar lun scan y machlud |
|
||
|
Hwnna
ydy o! Ond ma’ hwnnw mor brydferth! |
||
Y farwolaeth Liwgar Tu mewn i mi Yn fasged o ffrwythau Hen enw cras ydy cansar Fel dy swn di Sdalwm Yn dysgu’r feiolin Yn piwsho’r nodau Yn stafell wely fy nghof.Ti’n neb, washi! Meddai moscôd y sbarcs ar y parddu Trwy eda’r mwg o’r jos-dic Gwelaf wên efydd y Bwda Dioddefaint yw’r oll o fywyd Mewn craciau ar slab pafin Mae’r Croeshoeliedig Wrth ei ochr gylch Budur O jiwing gym Dioddefaint yw’r oll o fywyd A’r awel fel bys docdor Yn gwthio i ’nghnawd |
|||
| Brifo’n fan’na? | |||
A darganfod fy myd! Nid trwy fapiau A thelynegion Bellach Ond drwy Ogla Fy nghnawd fy hun. Comonsens ’dy pob dim Siwr dduw! Lle rei di hefo dy gym raeg? Im pellach na Tjesdyr - Boi! A’r awyr i gyd pnawn ’ma yn focs gwnïo nodwydd y gorwel rîl yr haul clytiau yr chydig gymylau a’r môr yn un pishyn taffeta glas injanwnïio’r tonnau’n hemio’r tywod (bandijis ydy geiria’, ’nte, Mam?)
|
|||
| Yn
y pellter Caf gip Ar fetel gloyw’r Scanyr Fel lliw afon Ganol gaea’ Ac un ochr i’r Ceunant Y bardd-filwr Phillipe de Novare yn ei glwyfau Marwol Yn pryfocio mewn barddoniaeth! Ei elynion A Madam Sera yn troi’n llaw i Drosodd Yn y garafan Yn y ffair ha’ Fel petai’n ddeilen yn ffawd yr awel Ma’ gin ti fywyd Hir O! Dy flaen Cer allan i chwara’ |
|||
...Dalia hi! |
|||
Meddai hustyng (yr y uychanet) o’r dail A glanio Oraens yr haul Yn glewt Ar gledrau fy nwylo A gair newydd Yn bowdwr sialc Drosto i gyd Yn fy arwain o’r dosbarth Gerfydd fy llygaid I wlad Arall I sw'r Wyddor A phob llythyren Yn anifail RhyfeddOd C yn safn sy’n rhuo h fel llam gasel w fel gloyn byw (ynteu w fel weiren bigog?) Mae’r rhosyn yn waedlyn ar lawnt Dan freichiau pwysau bantam y brigau A Chi’n dwad allan o berllan Hefo Afal melyn crwn Cadw di hwnna rwan Yn saff Rwla tu mewn i chdi Yn ddelwedd ddydd a ddaw Paid ti â bod mor galfinaidd a jyst ’i fyta fo A chofia Gwthia yn erbyn y geiria’.Faint o’r gloch ydy hi? |
|||
| Chi sy’ nesa-ond-un | |||
| Dwi’n chwythu cloc dant-y-llew yn fy nychymyg Agoraf ryw ddrws distaw ynof Mond deilen Grin Yn crafu’r rhiniog Fel llong o glai Yn mordeithio’r awelon ’Rwyf olion Teilchion Heiroglyph |
|||
|
Rhoid
hwn ar’ch garddwrn chi |
|||
Labelu Catalogi Croniclo Brut pob poen Ac arddangos y cyfan Yn amgueddfeydd Fy llygaidPwys o lard A Vim Donyts A Brillo Ddrwg iawn gin-i glwad Dairylea a llefrith Peint? Fel ’na ma’ hi Cuppa-soup a ham Chwartar? Ond am ’i fod o hiddiw A be’ ddusochi arall? Lemon cheese a jeli? |
|||
| Waeth heb | |||
Do dwinna hefyd Vladimir ’rwy’n tueddu i gytuno Gwybod? Gwybed? A phryfaid genwair! A thyllau yn y bengolg! A thwll dy dîn di Ffaro! O hen amlen DSS Cwymp Hyd lawr Fy nhipyn cerddi. |
|||
|
Codaf i fy nghlyw gragen a'i chrombil yn grynoddisg o'r môr fel swn tynnu peint |
|||
| Drwy’r
ffenesdri daw’r awelon cynnes i fy hudo hefo enwau Salamis a Famagusta Tamws Adonis Caf fy nhemtio i gred eto? Kyrie eleison |
|||
Gwelaf
yn y corneli tywyll gegau’n symud yn weflau shocking pink a swn eu hisian fel agor potal coke Iesu! Mae o ’di mynd i ddim |
Acrobat
h Dof
allan Blaen
sdethosgop y lleuad Aorta |
||
| Had this done before? | ||
|
Un
s saxa secisiar Yn noeth Diangaf I fforestydd Fy nghymreicTod Pryf a welaf i’th law di ual llygoden Cofiaf Mae ei chorff Fel cello That girl I left behind at 24 Sycamore Fancw Mae thermomedr yr afon Yn piciad o boced y cae A chrawciau’r frân Fel swn sgriffiad beiro Ar graff igam-ogam y brigau Edrychaf drwy delisgop geiriau A gwydr pob gair Mor dryloyw  deigr A’r haul yn taflyd ei hun Drwy ffenesdr yr awyr Yn waed yr aer ar Bafin y môr A merchaid llnau awelon coman Cymylau eu tinau’n siglo Yn clirio’r llanasd Yn feudwy mewn ciw A wynebddalen y Times ar sil y ffenasd yn glwy melyn Drosti Ga’i weld y piso yn ’ch bag chi, Mam? Y môr lurex mascara’r gwymon yn rhedeg Lliw nylons y tywod Gardas yr ewyn Ma’ dy gorff di mor gynnas â mygaid o de Rhwng ’Y nwylo fi Yn feudwy mewn ciw Yn hel briwsion y cwestiynau Oddi ar garpiau Fy nghnawd Yn fy llaw grystyn sych fy nicea Tybed ddaw cigfrain elias? Tybed deimla i’r awelon o galfaria fryn? Pwy sy’n ysgwyd bocs matjis atebion yn fy nghlyw? A mynawyd-y-bugail yn fflach matjan ar y bwrdd |
||
| Rwbath ’run fath ydy o | ||
|
Faint o’r gloch ydy hi? Mae’r awelon Yn malu poteli gweigion y goleuni Yn erbyn rhwyll y brigau Hwyr Pwy sy’n sbecian arnom ni? Tu mewn i’r dail Fel pypedau ffelt ar ddwylo’r awelon Pwy sydd yn ein dynwared? Mam! Ydy’r meirw’n medru siarad? Tybed oes ’na arwyddion? Yn Laver’s Liverpool and Irish Sea Tide Table Tybed? Watson a Crick? Desbret Dan yn Endor myn yffar i! Dwi’n chwythu cloc dant-y-llew yn fy nychymyg |
||
| Mae’r annwyd ma’... | ||
|
Mam! Mond hyn_____’na ydy seis y gorwel Ma’ hi’n ffitio rhwng ’y mys a mawd i Dwi’n codi’r môr fel ’tai o’n hancas oced A’r tonnau’n tisian o nghwmpas i ... |
||
| wedi
bod rhy hir o lawar arnat ti Cer i weld y docdor |
||
|
O fy mlaen Mae hogan Yn croesi’i choesau’n X (-rated pictiws nos sadwn hogia secs) fel y tro - O! - Hudolus hwnnw Yn afon Gwyrfai Wedi’r bont A’r awelon powld yn codi sgert Y brwyn Fedar hon ddim bod yn sâl PAM? Meddai dynas lolipop (mewn côt PVC) gwyn ’i llygada hi A’i hedrychiad ifanc hi’n Croesi’r lôn Ata i Ar ei phen ei hun Bach Herfeiddiol A fy llygaid yn mwytho heibio clun y wal I wacter Y coridor Yn fan hyn Yn pwyso ar adwy Bywydmewnmarwolaethmarwolaethmewnbywyd Byw.............marw.............marw............byw Bywydmewnmarwolaethmarwolaethmewnbywyd Byw.............marw.............marw............byw Bywydmewnmarwolaethmarwolaethmewnbywyd Fel esdalwm Yn marchogaeth Hiâ! Giât y Plas A’n llygada i ar gau Ond yn gwbod I’r dim Lle oedd lle O’r fagddu tu mewn i mi Gefn dydd golau A nadau Apache yr awelon Yng ngharlam y gwrychoedd Yn methu’n glir  fy nal Hyn tybed? Oedd (ydy?) Gobaith |
||
| Chi
sy’ nesa |
||
|
A
llygaid
Fel rheithgor Pawb Yn sbio arna i Gadawaf fy llyfr Ar agor Ar y gadair Fel to bach ar Air Wrth gerdded ar hyd y coridor Gwyn, (Fel llwch sialc ar lawes Gynt A’r llythrennau O! Hud yn RhyfeddOd,) rwy’n troi’n goma ar ddalen wen rhwng dau, air, rhwng, dau, olau, rhwng, dau, lanw, rhwng, dau, fyd, Rhw Ng, , ac ynof n fel twNel o fel OgOf ch pob erCHwyn magl m Y yn fforch yn y lôn |
||
![]() |
||