Yn y Gegin
Dyma chdi wedi dilyn dy drwyn i'r gegin o'r diwedd,
ac oes, mae 'na ogla da ar y cyseiniaid sy'n tasgu o'r badell.
Dilyna'r dolenni (glywi di'r
gynghanedd?), ac fe gei dy dywys gam wrth gam drwy'r broses o
weithio englyn cywir. Mae'r negeseuon hyn wedi eu cymryd (a'u haddasu rhyw
fymryn bach) o lawlyfr a gyhoeddwyd gan Wil Ifan yn 1948, sef Gweithio Englyn,
un o'r llawlyfrau cynghanedd symlaf o'r cwbl. Mae'r
gwersi yn gwbl addas i ddechreuwyr rhonc.
Cofia fod cyfle i chdi holi
unrhyw beth am y gwersi hyn yng
Nghornel y Disgyblion yn seiat yr annedd.