|












| |
E-bost gan Wil Ifan IX
Annwyl Gwern,
Dyma ni o'r diwedd yn barod i geisio gweithio englyn. Mae’n well gen i sôn am
weithio englyn yn hytrach na gwneud englyn, gan mai dyna a ddywedai
bois y Cilie bob amser. Mae arogl efail y gof arno!
Pennill o bedair llinell ydy’r englyn, a'r pedair yn odli â’i gilydd.
Pa gynghanedd sydd i'w defnyddio yn y llinellau?
(1) Cei ddefnyddio'r Lusg naill ai yn y gyntaf neu'r drydedd
(2) Cei ddefnyddio’r Groes, y Draws, a'r Sain yn y gyntaf
neu'r drydedd neu'r bedwaredd
Fe sylwi imi osgoi sôn am yr ail linell, a hynny am ei bod yn galw am sylw ar ei
phen ei hun. Llinell ryfedd iawn ydy hon. Mae’n cychwyn fel rhyw fath o atodiad
i'r llinell gyntaf, ac wrth osod yr atodiad ar bapur tynnir strac fechan i'w
wahanu oddi wrth wir ddiwedd y llinell gyntaf. (Y gwant yw’r term
technegol am y strac fechan yma). Gall yr atodiad bychan fod yn un sillaf neu yn
ddwy neu yn dair. Mae’r rhan sy’n weddill o’r ail linell yn cael ei ysgrifennu o
dan y llinell gyntaf a rhaid i ran gyntaf yr ail ddechrau yma gynganeddu â’r
atodiad y soniwyd amdano. Y gair cyrch ydy’r term cyffredin ar yr
atodiad.
Nid oes gynghanedd o fath yn y byd yng nghynffon yr ail linell, ond sylwa ei bod
hi’n odli â’r tair llinell arall ac yn gorffen gyda sillaf ddiacen. I
gynganeddu'r gair cyrch defnyddia’r Groes neu’r Draws neu'r
Sain. 0 ddefnyddio'r Sain, rhaid i chdi anghofio’r hyn a ddywedais
nad oes angen cynghanedd yng nghynffon yr ail linell, oherwydd bydd odl gyntaf
dy Sain yn cau'r tamaid bach ar ôl y strac, yr ail odl (fel rheol) yn
hanner cyntaf yr ail linell, a'r gynghanedd yn gorffen gyda diwedd yr ail
linell. Rhywbeth yn debyg i hyn:
- Aneirin
Yw brenin y bryniau.
Os defnyddi di’r Groes neu'r Draws, a dyna'r ddwy fwyaf cyfffredin
yn y cyrch, y mae i chdi ryddid newydd (ond dim ond yma, cofia!) Yn ychwanegol
at Tim Tomos, fe gei di nawr ddweud Tomos Tim hefyd. Fel hyn:
- o Fynwy
I Fôn y mae cyffro
O ran yr odlau, dyma'r rheolau:
(1) Y llinell gyntaf i orffen naill ai’n acennog neu'n ddiacen
(2) Yr ail yn ddiacen
(3) Os bydd y drydedd yn ddiacen rhaid i'r bedwaredd fod yn acennog, a vice
versa
Beth am hyd y llinellau ?
(1) Y gyntaf, o gyfri’r cyrch, yn ddeg sillaf
(2) Yr ail, heb gyfri’r cyrch, yn chwe sillaf
(3) Y drydedd a'r bedwaredd yn saith sillaf yr un
Dyna hen ddigon am y tro, a thithau, gobeithio, ar dy ffordd i weithio un math o
englyn, sef y math a elwir yn englyn unodl union. Ond cofia, dwyt ti ddim
eto wedi dysgu digon i feirniadu englynion pobol eraill!
Llawer o ddiolch am dy gwmni dros yr wythnosau diwethaf
Cofion
Wil Ifan
0.N. Wedi meistroli cynnwys yr e-byst hyn, fe gei weld ymhen amser fod yr
awdurdodau heddiw yn rhoi mwy o ryddid i chdi nag yr dyw i’n ei roi i un yn
dechrau, yn arbennig felly ym myd y Lusg. Ond fyddi di ddim yn anghywir o ddilyn
y gwersi yma.
|