Dolenni'r Beirdd
Weli di'r cyfrifiadur 'na yng nghornel y 'stafell?
Yn groes i'r farn gyffredin, dyw cynganeddwyr heddiw ddim yn llusgo'u
traed ar ôl yr oes. Yn wir, mae beirdd yr annedd hon yn treulio oriau
lawer yn syllu ar sgrîn y cyfrifiadur ac yn chwilio am ysbrydoliaeth ar
y we!
O dro i dro, fe fyddant yn taro ar safweoedd sy'n
ymwneud mewn rhyw fodd neu'i gilydd â'r gynghanedd neu farddoniaeth Gymraeg
yn gyffredinol. Casgliad o ddolenni i dudalennau o'r fath a geir ar y
dudalen hon:
Os hoffet ychwanegu at y rhestr isod, cei fanylion
ar sut i wneud hynny yma.
Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd
Canolfan ysgrifennu yn Llanystumdwy sy'n cynnig cyrsiau difyr ac amrywiol i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn ysgrifennu creadigol, a hynny o dan arweiniad beirdd ac awduron cydnabyddedig mewn awyrgylch gyfeillgar a chartrefol.
Clywed
Cynghanedd
Fersiwn ar-lein o lawlyfr cynganeddu Myrddin ap Dafydd o dan ofal
Geraint Jones, Rhydychen.
GweFr
Cylchgrawn llenyddol digidol i hipis soffistigedig dan olygyddiaeth
Robin Llwyd ab Owain yn cynnwys gwaith gan Robin Llywelyn, Emyr Lewis,
Menna Elfyn a llawer llawer mwy..
Rebel
ar y We
Cyfrol o farddoniaeth o waith Robin Llwyd ab Owain.
Cerddi
Wlipo
Cerddi Wlipo (Oulipean) - Cerddi Concrit sydd yn gysylltiedig
â phatrymau a ffurfiau - hefyd, enghreifftiau o gerddi T. James Jones
('Y Twrch Trwyth' a 'Prydeindod') yn ogystal â darnau. canoloesol o 'Culhwch
ac Olwen' (yn yr un dull).
Brethyn
Brithwaith yr Iaith - Barddoni
Safleoedd - Barddoni - Canu - Enwi - Ysgrifennu
Peter
Finch Archive
Cerddi, cyhoeddiadau a chyngor gan un o feirdd mwyaf blaengar Cymru. Mae
yma hefyd gasgliad helaeth o ddolenni llenyddol diddorol.
Cyfwe
Dyma safwe sy'n cynnwys detholiad o lenyddiaeth Gymraeg wedi ei chyfieithu
i ieithoedd eraill gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg,
Catalaneg, Arabeg, Daneg, Swedeg.
Canolfan
Astudiaeth R.S. Thomas
Safwe y Ganolfan a sefydlwyd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ar gyfer y
sawl sy'n dymunio astudio gwaith R.S. Thomas. Ymhlith y tudalennau mae
llawer o ddeunyddiau defnyddiol.
Llais
Llên
Cylchgrawn llenyddol Cymru'r Byd: yn cynnwys dau adolygiad o lyfrau Cymraeg
bob wythnos, cronfa o adolygiadau blaenorol, erthyglau ar awduron sydd
yn y newyddion, rhestru o lyfrau newydd, gwerthwyr gorau'r farchnad llyfrau
Cymraeg, a manylion llyfrau sydd ar y gweill.
Gwymon y Môr: Eluned Morgan
Safwe yn clodfori Eluned Morgan (1870-1938) a'i chynnyrch llenyddol.
Cymru ar y We
Porth testunol sy'n rhoi mynediad i ddeunydd o ddiddordeb Cymreig ar y We
Fyd Eang. Mae'n arweiniad ar-lein i wefannau o safon uchel a dilysiedig
sydd yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am
Gymru a phob agwedd o'r bywyd Cymreig.