|
... mi glywaf fwrdd yn llafar,
swn beirdd yn dawnsio'n y bar
ac yng ngwesty'r canu caeth,
y bwrdd hwn yw barddoniaeth.
M ap D
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y tair gwyl blaenorol bydd Canolfan
Ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy
yn cynnal pedwaredd gwyl gynganeddu fis Tachwedd 2005. Nage, nid cwrs,
ond penwythnos
cyfan o weithgareddau cynganeddol – gweithdai,
darlithoedd, cystadleuaeth, perfformiadau, sesiynau trafod.
Bydd rhywbeth at ddant pawb gobeithio.
Cliciwch yma i ganfod pwy enillodd y gwobrau yng nghystadlaethau'r
Wyl
|
Bydd yn cyfle i rai dreulio pob munud awr, o nos
Wener hyd bnawn Sul, yng nghwmni y rhai sydd yn gwirioni yr un fath.
Bydd yn gyfle i eraill gael blas ar hyblygrwydd y gynghanedd yn y noson
o gynganeddu doniol, neu drio llunio llinell eu hunain am y tro cyntaf
yn y gweithdy i ddechreuwyr.

Dilynwch y dolenni am ragor o wybodaeth am yr wyl ryfeddol
hon. |