Cystadleuaeth Fawr Barddas 2005

£ 100 o wobr

(A Chystadleuaeth Englyn y Dydd)

Enillydd Cystadleuaeth Fawr Barddas 2005 oedd Eigra Lewis Roberts

Enillydd Englyn Dydd Gwener oedd Iwan Bryn Williams
Enillydd Englyn Dydd Sadwrn oedd Sian Northey
Enillydd Englyn Dydd Sul oedd Iwan Bryn Williams

Mae'r englynion buddugol i'w gweld yn Oriel yr Annedd


6 englyn : : un yr un i leoedd neu adeiladau hanesyddol

Beirniad: Y Prifardd Twm Morys

Gwobr: £100

Ceisiadau i'w gyrru i Dy Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW erbyn Tachwedd 14, 2005.

Dylid rhoi ffugenw ar y gwaith a'r enw cywir mewn amlen dan sêl. Fel arall, cewch ebostio eich cynnig at Sian Northey, a fydd yn siwr o yrru eich gwaith at y beirniad dan ffugenw yn unig.

Cyhoeddir enw'r buddugol yn ystod y Cinio Caeth ar bnawn Sul yr wyl.

Englyn y Dydd

Eleni hefyd, ac am y tro cyntaf yn hanes yr Wyl, bydd cystadleuaeth englyn y dydd yn cael ei chynnal dros y tridiau. Bydd testun englyn dydd Gwener ar gael o ddydd Mercher, Tachwedd 16eg yn y fan hon, ar wefan Annedd y Cynganeddwyr neu drwy ffonio neu e-bostio Ty Newydd.

 


Am ragor o fanylion cysylltwch â Sian Northey

Mae'r Ty Newydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r

Noddwyd gwefan yr Wyl gan Yr Annedd