acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

26 Medi 2000

Iwan Llwyd

Mae holl gestyll Edward yn ymlacio,
mae 'na wên ar wep Dafydd Êl,
mae pwysigion y wlad
yn rhoi ochenaid o ryddhad,
mae 'na gic yng ngherddediad odlau stêl:

mae'r byd Eingl-Gymreig yn ystwyrian,
'does 'na neb i'w cythruddo nhw mwy,
fe gan' nhw ganu'n ddiderfyn
am bwll a chwarel a bwthyn,
heb gysgod deryn ar eu gorwel hwy:

ond mae'r afon Dwyfor yn llawn dagrau
a'r Fenai yn isel ei thrai,
ac ynys Enlli
yn ddigwmpeini
a chôr y cewri'n teimlo dipyn yn llai:

a'r bwncath yn llechu'n y bondo,
a'r wennol yn gadael cyn pryd,
ac mae yr ehedydd
yn fyr ei leferydd,
a'r sgrechgi yn rhegi o hyd:

ac mae duw yn ei nefoedd yn crïo,
yn tywallt ei ddagrau'n ddi-baid,
gan ymffrostio yn ffraeth
na fydd o ddim gwaeth
ag adar y greadigaeth o'i blaid.

Medi 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)