Beth yw natur heb furiau,
ar gwyllt heb forder iw gau?
Pa ryw ryddid oedd priddio
meini a gerddi dros go;
rhoi baw anghofio ar ben
y gwaith fu yn Llangathen?
Lle canai Lewys, distaw
ydy Aberglasner glaw,
ar naw gardd, yn sarn i gyd,
aneglur a mwsoglyd;
dan ddinad yn ddi-enw
a neb yn eu cerdded nhw.
Cof byr yw ein natur ni.
Mae amynedd mewn meini
i aros dan eu iorwg,
dan glo, am ddwylo a ddwg
raw a chaib i glirio chwyn:
dwylo â greddf iw dilyn -
rhoi enwn ôl i dir neb,
rhoi enw a gwarineb.
Yn rhydd nawr y cerddwn ni
drwy Aberglasner glesni;
a rhwng meini gerddi gwâr
ymryddhaur ym or ddaear.
Mehefin 1999