acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Adar Duon

Mei Mac ac Iwan Llwyd

Hanner awr i lawr y lôn
drwy dai ac adar duon,
heibio’r ysgol a’r coleg,
llawer un dall a’r wên deg,
heibio drws y becws bach
a thywydd a phetheuach,
heibio’r stryd braf a’r dafarn
yn byw’n ddi-hanes ei barn
daw trên blin ei gyfrinach
heibio i bawb yn ddistaw bach,
ac o hyd mae mwg ac ôl
y fynwent fawr, derfynol
a phlu ac adar duon
hanner awr i lawr y lôn.

Ebrill 2002

cnvrule.gif (2354 bytes)