acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Yr Alarch Ddu

(I Llion)

Iwan Llwyd

I ganol y plu gwynion
o ryw wlad i lawr y lôn,
y daeth i'r llyn dieithr, lleddf,
â chân yn un â chynneddf
yr adenydd trydanol,
a thorri craith roc a rôl
yn noeth fel jiwc bocs neithiwr,
ar dalcen diacen y dwr.

I ganol mordwy hwyaid
a brôl direol yr haid
y glaniodd, a'r gwylanod
a'u hiaith fain a goethai fod
aderyn wedi aros
a wnai ei nyth yn y nos,
â gwe fwy main nag awyr,
â dawn galetach na dur.

I ganol yr hesg anwar
a'r gwellt daeth swn curo gwâr
adenydd deryn dawnus
â'i grefft yn gwpled ar grys;
Jimi Hendrix yn jamio
yw llais ei linellau o,
ac awen lem John Lennon
yw'r dinc sydd yn gwanu'r don.

Awst 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)