acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Baled Cymdeithas Albert Jenkins 2002

(neu "Gwag Broffwydoliaeth y Bardd")

Emyr Lewis

I'w chanu ar y dôn "Gwnewch bopeth yn Gymraeg", gyda sylw arbennig at y dyblu yn yr ail bennill.

Yn Nottingham ers talwm
‘Roedd Sherriff boliog bras
A’i ormes ar y werin
Dros frenin Lloegr gas,
Ond Robin a Wil Scarlet,
Y Celtiaid yn y co’d,
Ro’th wres i dra’d y Sherriff,
Y Scarlets cynta’ rio’d.

I Nottingham eleni
Mae teigrod balch yn dod
Sy’n ysgyrnygu’n Seisnig
Mai nhw yw’r gore’n bod;
Yn cwyno mewn acenion,
Fel bydd rhyw Saeson swèl,
“Why must we trek up here
Oh dear, for Quinnell”.

Daw Robin arall eto
A’r brodyr Easterby
A Stephen Jones i hela
Y teigrod mawr eu bri;
Bydd coesau eu canolwyr
Yn crynu’n siwps mewn braw
Wrth feddwl pwy i’w daclo:
Leigh Davies neu Finau.

Mae bois y crysau sgarlad
Am wa’d y teigrod blin,
Mae’r Cymry am eu hamro
A’u cico lan eu tin;
Mi wediff Martin Madden
Wrth Johnson fynd i’r jawl
A hala Austin Healey
I bwdu yn ei gawl.

Ac yno yn eu hannog
Bydd haid o Gymry gwâr,
Yn canu yn unedig
Ac wedi cael ein siâr
O wîn y fuddugoliaeth
A chwrw Felin-fo’l
Cymdeithas Albert Jenkins
Cyn troi am adre’n ôl.

Ebrill 2002

cnvrule.gif (2354 bytes)