Yng ngolwg yr angylion – aeth yr wyl yn beth rhad, yn sebon, yn dinsel hyd orwelion yn “eisiau o hyd” o sach Si
Yng ngolwg yr angylion – mae Herod ym Mharis ac Arfon, yn dal, a’i ddaliadau o’n dynn, dynn ym meddwl dynion.
Yng ngolwg yr angylion – mae hi’n flêr mae ’na floedd yn gyson, a rhywle clywir hoelion ar groes dros y ddaear gron.
Ond gwyn yw’r wlad, gwyn yw’r lôn – a’r rhedyn ar hyd ei hymylon a ninnau bawb, yn y bôn, yng ngolwg yr angylion.
Rhagfyr 2002