acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Anodd

Cerdd ar fesur newydd y Llethran Ddisgynedig

Buddugol yng nghystadleuaeth Barddas : Gwyl Gynganeddu 2003

Mei Mac a Twm Morys

Llwydrew fel eiddew'r hen flwyddyn
ar y wal yn dal yn dynn,
anodd taenu menyn.

Dim sêr wrth odre'r rhaeadrau,
brwyn yn ffyn, hen bry'n ei ffau.
Anodd twymo neiniau.

Draw o'r Foelas i Drefelin
dreigiau cant o blant bach blin.
Anodd osgoi cennin.

Adeg ynfyd, coed eginfawr,
heddiw, a lliw hyd y llawr,
anodd cofio Ionawr

Cla'mai, pysgotwr yn clymu,
y cae'n haul, y gwcw'n hy'.
Anodd peidio gwenu.

Cau ymadael mae 'cymydog',
chwarae ar gwch, hwrê'r gog.
Anodd byw 'Motwnnog.

Chouchen, tafarn, haul Concarno,
agor y gwin, escargô.
Anodd dwad o'no

Yfed cwrw, trafod coron,
Iwan Llwyd yn nadu'n llon.
Anodd gwneud englynion.

Awn i wylio'r hen wenoliaid,
dyna nhw yn mynd yn haid.
Anodd ar fy enaid...

Y gwter yn tagu eto,
doleri Duw, dail ar do.
Anodd eu cribinio.

Haf yn pydru'n ddu dros ddaear,
clawr ar waun, coler ar war.
Anodd codi'n gynnar.

Twrci, grefi a goryfed,
y fo yn sleifio ar sled.
Hawdd iawn gwneud adduned.

Tachwedd 2003

cnvrule.gif (2354 bytes)