|












| |
Anogaeth i Ysmygwyr
Emyr Lewis
Englyn i annog ysmygwyr myglys
i ail-ystyried eu harfer a'u buchedd ac i
addunedu hepgor y cyfryw blanhigyn yn y flwyddyn sydd i ddod:
Y mae rhai am awyr iach - ac felly,
gyfeillion cyfeddach,
rhowch heibio'r baco am 'bach
a mwynhewch: y mae'n iachach.
Rhagfyr 2001
|