Fel mochyn daear
yn ddall i'r trap,
ces innau fy nal heno.
Yn wystl i neb na dim,
dim ond yr hen Amser sbeitlyd 'na
sy'n troi mor araf;
Dim byd,
Dim trên, dim gyrrwr, dim
chwiban,
dim ond cwynfan, oerfel, blinder
a mwy o oerfel, blinder a chwynfan.
Unwaith eto
fe ddaeth yr hiraeth o aros,
unwaith eto
ni ddaeth yr awydd i weithio:
heb fwrw mlaen â darllen
Zola,
heb lenwi jig-so'r gerdd â
geiriau;
heb amynedd am ddim ond aros,
aros a'r aros yn anos
wrth aros drwy oerni'r hwyrnos
ac aros am faint? Am wythnos?!
Yna, o'r Amwythig i Aber
ar reilffordd go od,
un heb gledrau na
gorsafoedd gerllaw -
ie, minnau mewn bws mini
yn meddwl amdani,
yn horni drwy'r hwyrnos
a hithau'n pisho'r glaw.
Mae cwmni'r dieithriaid
a'u hiaith anweddus
yn ddiflas yn barod
ac angen am rywbeth amgenach
i roi'r bys i droi'n gyflymach.
Bardd arall wrth fy ochr
(Yn rhoi ei safbwynt e mae'n siwr)
a Chymru fach yr ochr arall,
ond dim golwg o Aber eto...
[Sawl awr syrffedus
heb werth llenyddol]
Er y gwelir bri ein
rheilffyrdd ninau
yn rhedeg ar edau
y geiriau hyn,
ac er fy mod yn socian
fel seico, y peth pwysicaf
i gof ei gofio
yw fod dyn
yn oerach fyth o aros!