Ar ras i'th gyrraedd mewn pryd
(I Glesni, ar ddydd gwyl Santes Dwynwen)
Aneirin Karadog
Yn ana’l yr haul rhed fy march ar hyd
Castilla,
Wrth iddo garlamu a’i garnau’n fwg melyn o’i ôl
Rwy’n uchel ar ei gefn uwch y wastadedd amarilla*
Yn mynd mynd mynd gan geisio’r gorwel ffôl...
Parhau wna’r daith ar y paith dan y sêr
A minnau’n ffoi heb droi i edrych yn ôl
Wedi fy ngwisgo’n ddu â galar hyd fy mêr
Yn dal i fynd a mynd tua’r gorwel ffôl...
Af
ymlaen dan y wawr a blodau yn fy llaw
Ac er mawr syndod dof at y
gorwel ffôl,
I’r golwg daw glesni’r cymoedd, mor hardd dan y glaw,
Wrth gyrraedd Cymru fach ac atat ti yn ôl.
Ionawr
2003
* ‘Melyn’
yn Sbaeneg