acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Awen

Nici Beech

Ar fin rhannu cyfrinach
wyf i, un gyfrinach fach
am Awen. Heb amheuaeth
enw hon yw’r un a wnaeth
beirdd yn brifeirdd ond mae’n bryd
i mi rwan ymyrryd.

Aeth Iwan Llwyd a’i fwydyn
llaith draw i sgota’n ei llyn.
Dan swyn grymus ei chusan
siwr, fe drodd y dwr yn dân
goruchaf, a chreu Gwreichion.
Nid hardd yw bardd yn y bôn
Awen a’u gwna nhw’n rhywiol!
Glywsoch chi’r stori tu ôl
i lewyrch Emyr Lewis?
Am hwyl aeth i dreulio mis
yn ei ffau a bu’r un ffôl
erioed mor Chwyldro-adol.
Unwaith bu Mei Mac acw
do wir, am ei "haw-di-dw"
cafodd un wers llawn persawr
ac adre’r aeth gyda’r Wawr.
Do, fe ddaeth wyn llywaeth llên
bob lliw i babell Awen.
Tsiap reit crap oedd Ceri Wyn
yn y dechrau, yn dychryn,
nes i Awen groesawus
estyn lled blanced ei blys
drosto fo a’i adfywio.
Ar ei hôl mae’i Waddol o.
Merddwr oedd gwaed rhen Myrddin
a’i eiriau o oll yn grin,
ond pellhau wnaeth dyddiau du
ei drallod, ‘rôl chwistrellu
sudd Awen i’w Wythiennau;
y mae yn awr yn mwynhau.
O!’r cawlach fu ‘Mro Colwyn
nòd i sawl cyn dewis un;
oedd, mi roedd hi ar frys
i ‘myrryd â Thwm Morys,
ond Awen oedd llawn dyhead
i weld un cystal â’i dad.
Nid Twm gafodd fedydd tân;
rho’i dwylo ar Tudur Dylan
wnaeth hi, a chynorthwyo’r
mab i brofi blas Y Môr.
Cafodd Ifor ei goron
o fod sawl tro efo hon.
Yn y pyb ac mewn pebyll
yn mwynhau golau’n y gwyll.
Eleni, gwelodd Llion
Rithiau hardd wrth drwytho hon.

Hwren di Awen, a do,
dwi’innau wedi bod yno.
Yn ei drws bûm ambell dro
ei gyrraedd – ond heb guro.
Nod Awen ydi dewis
i roddi’i hun i feirdd is.

 Awst 2000

cnvrule.gif (2354 bytes)