|
|
|
|
Awen LwydMeirwen MacFi yw Awen - wyf fenyw,(wyf fam i wyth ar fy myw!), yn fardd, na fu ei harddach, yn byw wrth fy hunan bach (byw i weithio) mewn bwthyn wedi ei doi heb gymorth dyn. Fan hyn y byddaf fin nos yn sgwennu fy nhasg unnos - yna'i gyrru at Gerallt, hwnnw'n dweud nad yw'n ei dallt, (am mai dyn di-glem ydy o dyn od fel pob dyn ydy-o). Wyf fardd! "Y bardd clenia'n bod - a menyw!" medd mam hynod yn Y Wawr ddeufis yn ôl: "un with-it gynganeddol, fawr ei llais". Ond ar fy llw wyf sâl am fwy o sylw. Dymunaf glod am unwaith, (fy nghwyn yw sylwedd fy ngwaith) Wyf fenyw mwy amrywiol na lleisiau broc roc a rôl eich Meirion Macs a'ch Morys, eich Llwyds a holl Aps eich llys, Elwyns bach, Dylans y byd (a Dafydd Pritchard hefyd). Sgwennaf â llais gwahanol, llais dial iach, llais di-lol am bryfed bach o brifeirdd a byd gwrywaidd y beirdd. Mi ruaf am wrywod, am Dduw'n wr, am ddynion od. Sgwennaf am bob Siôn Dafydd, (i'r diawl â throwsusau'r dydd!) am feirdd o Sodom i Fôn, am ddewiniaeth - am ddynion, y dynion sy'n barddoni yn fil cywreinach na fi. Sgwennaf am Lais y Genod hyd y nos (a dynion od), am yr angen am fenyw, am eni babi - a byw! am un englyn gan fy nain, am achau Gwerfyl Mechain, am gariad, am gyweirio Wil y gwr, a'i gyflog o. Am Women's Lib a diben y byd heb ddynes yn ben, newyn am feirdd benywaidd, a bras (ydyw i'n boring braidd?), ac fy nhîn mewn bicini, (a oes gan neb, ys gwn i, ateb gonest i'r cwestiwn "Ydy 'nhîn i'n dew yn hwn?") Dros holl ferched y gwledydd nad ynt yn gweld golau dydd, sgwennaf gân, sgwennaf gannoedd fel hyn, a phob un yn floedd am ll'nau, smwddio twtio'r ty, a hwfro (rhwng yr hefru), soniaf am bwytho sanau a gwneud gwledd a gwneud y gwlâu. Bellach a mi'n crebachu fin nos yng nghrombil fy nhy, hen fenyw wag wyf innau, ofer wyf ag awen frau. Yn ddi-hwyl ac yn ddi-wên wyf fagiad o genfigen. Dynion, a dynion pob dydd neu boenau y ferch beunydd, dyna yw 'nhestunau i (a dylanwad pidlenni) dyna oll, dynion o hyd, dim mwy, 'na i gyd yw 'mywyd. Ond mi frathaf fy nhafod, gwn y bydd un dydd yn dod, un wawr pan gaf innau wys i gywyddau'n gyhoeddus, a merched yn fy mharchu'n ddi-os am rhoi cweir i ddyn. Y wlad yn brolio'r lodes! Ydy'n wir mae'n dod yn nes! Hwyrach y bydd y Feuryn yn ferch, hwyrach mi fy hun! Caf dâl am ddod i Dalwrn a dod, nid i chwifio dwrn ond i roi deg! Deg! Myn dyn! Deg o hyd - a deg wedyn a chlod (i'r genod wrth gwrs!) ac un i'r gwryw-gwynwrs. O Dduw! Mi dwi'n haeddu hyn! Rho i wraig fyd yr hogyn, wyf fardd - "y bardd dela'n bod", ac annwyl (fel mae genod), wyf llawn awen - wyf fenyw, wyf fam i wyth ar fy myw! Hydref 2000
|