Wy'n gaeth i'r gerdd -
ei hing a'i hangerdd,
rhaid imi roi'r gorau i farddoni...
Mae fy nannedd
yn ddu gan gynghanedd
ac yn dal i bydru,
alla i ddim peidio ag odli
ar ben hynny.
Rwy'n ei cholli hi,
rwy'n mynd yn loopy!
Wy'n gerdd-head i´r carn!
Bob dydd yn snortio
llinellau llond eu barddoniaeth,
yn gwthio'r geiriau
drwy'r nodwydd i 'ngwythiennau'n
drosiadau sy'n rhoi fy llygaid
i rowlio'n farblys ar lethrau o iâ.
(Heb angen am beiriannau fel ambell un!)
rowliaf â 'nwylo
gymariaethau'n
gônau Bobmarlïaidd
nefol eu smôc
sydd fel hapusrwydd dyn brôc
sy'n dal i allu taflu jôc.
Drwy'r bong â'r
delweddau
ac mae'r swigod yn gweithio fel morwyr yn erbyn y lli yn fy nheml grisial i'm
hudo i; o grombil f'ysgyfaint chwythaf y mwg yn inc ar y ddalen o aer.
Heb alwad cyson yr Awen ai hit
dechreuaf grynu, drwy'r boen
daw'n anodd codi o'r gwely
heb sôn am godi gwên,
rhaid imi roi'r gorau i farddoni...