I Beryl Povey, Pen Sarn
Twm Morys
Ym Mhen Sarn mae hanes wy. - Maen nhw'n sźr
Ym Mhen Sarn am ddydwy;
Wyau Mōn, wyau Mynwy:
Ni fu'r un ā melyn mwy.
Mae 'na ieir yn nhre' Cleirwy. - Mae 'na ieir,
Am wn i, 'Nglynebwy;
Cywennod yn Nant Conwy;
Yng Nghelyn roedd un neu ddwy.
Iār ar draeth, iār ar drothwy, - iār yn Lly^n,
Iār yn Llanystumdwy,
A iār yn Llangyfarwy,
Iār y plas, a iār y plwy.
Iār mewn yd, iār mewn adwy, - iār o Went
Iār wyllt Dinas Mawddwy,
Iār wirion Carreg Ronwy,
Iār iach y wlad, iār ā chlwy.
Hen iār fain yn Nhrefynwy, iār denau
Ar dwyni Deganwy,
Iār y Dodo'n Ardudwy:
Fel lliwiau'r iār, felly'r wy.
Wy o'r fro, Cymro i'r carn; - wy ysgafn,
Wy ā plisgyn cadarn;
Rhyw wy o aur a haearn:
Mae hanes un ym Mhen Sarn!
Mehefin 2001