Y bws bach tan goch grachen - yn gerbyd â'i gerbocs heb ddiben;y geriach llwyd tan lwyd len, y geriach tan fwg oren.
Trawscambria! O Feulah i Fôn - trafaeliaist ar foelydd Rhiwabon; gyrraist tros bont Tregaron o le i le ar y lôn.
Tan garped heno'n gorpws - olwynion eleni a stopws; daeth awr i fynd i'th warws a daeth i ben deithio bws.
Rhagfyr 2003