acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Caerfyrddin

Aron Pritchard

Adref o hyd yr af i (Mei Mac)

Fry yn unigedd y cyrion,
a glaw Mehefin yn cau’r nos
yn un â thes y dre’, syllaf
ar y goelcerth neon islaw.

Caerfyrddin. Hafan fy nyddiau.
Wyt heno’n mud-losgi’n dawel,
yn rhyw hen oren cyfarwydd
ger fy nal-y-bws beunosol.

Teimlaf yn un â thi; mae dy
balmentydd tywyll yn rhedeg
drwy fy ngwythiennau, mor rhwydd â’r
Tywi’n chwarae mig dan y niwl.

Ond eto; eto mae ’na dân
heblaw am lafoerio’r lampau,
rhwng y siopau a’r toeau gwlyb
yn hawlio’m synhwyrau heno,

rhyw dân ar fin diffodd, adlais
o’m gorffennol sy’n pellhau’r dref
o’m gafael rywsut, yn mynnu
siarad â mi drwy’r diferion…

*   *   *

…ac heno,
yn y munudau breuddwydiol hynny
rhwng disgwyl bws a gweddill amser,
synhwyraf fy modolaeth yn y dref islaw;
gwelaf fachgen yn tyfu’n ddyn ar hyd ei strydoedd;
teimlaf wres cyfarwydd yn ddwfn yn holltau’r palmentydd;

’rwyf fi’n dal, drwy’r holl law mân,
i weld y tân yn llosgi.

Ac eto, mae yna lais sy’n mynnu fy neffro
drwy’r muriau tywyll a’r gwteri oer.
Clywaf oedolyn yn fy ngalw drwy’r dref:
“Rhaid diffodd y tân.”
Synhwyraf fy machgendod yn llithro ymaith,
yn toddi i’r tarth;

’rwyf fi nawr ar ben fy hun,
yn ddyn; ’rwyf wedi sobri.

Ydy, mae’n anodd peidio breuddwydio am a fu,
anodd ymadael â’r hen hen hud,
rhywle’n gudd yn y niwl dros Gaerfyrddin.
Mae fy ngweddill yn gwawrio, mi wn,
ond am heno, yn unigedd y cyrion heno,
ni allaf ffarwelio â’r fflamau

sy’n diffodd, diffodd, maes o law
drwy’r glaw, dros afon Tywi.

Mehefin 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)