|












| |
Cariad mewn Gwyn a Du
Iwan Rhys
Wrth adnabod dy wyneb
ynghanol meddwdod y dafarn
mae gwrid annisgwyl
yn dinoethi 'nghnawd
a gwydde bach y Guinness
yn goglais fy nghroen:
daw llif araf o deimladau gwyn
drwy'r cwrw du
fel odlau hap ar dafod tincer
ac yno'n dynn mewn gwyn a du
mae cariad yn cyniwair.
Mehefin 2002
|