|












| |
Carol (er cof am Kirsty McColl)
Iwan Llwyd
Rhwng y dannedd diawledig fe glywaist ti lais
oedd yn nes at dy galon na swn newydd y Sais,
ac yn oerfel Efrog Newydd nid y limousīns crand
a gynhesai dy 'Ddolig, ond hiraeth y band
am alawon Iwerddon a harbwr Galwź
a'r bobol ddidoreth oedd yn gweu drwy'r lle:
fe welaist ti Elfis wrth dalu dy fil,
a chusanu cefn ei law o wrth ffarwelio'n swil:
fe'th swynwyd gan guriad llanw'r Caribī
a chaethiwed Ciwba oedd dy ryddid di,
ac wrth i ni obeithio am eira'n fan hyn
dan haul y trofannau boed dy 'Ddolig yn wyn.
Rhagfyr 2000
|