Bu’n law yn Abertawe trwy’r dydd, ac yn wynt o’r de, yn ubain i’n hwynebau o Ben y Mwmbwls drwy’r Bae.
Ac ar fin y Marina dall wyt ti, mewn dillad ha’ byddar i wefr gwynt Chwefror: a mud heb gadwynau’r môr.
Chwefror 2002