|












| |
ANTURIAETHAU CHIRRAC
[Chirrac sy’n methu sharrad]
Cam ‘B’ ei wellhad
Rhys Dafis
Ar ôl ei brofiad poenus yn y Ranch, Llanystumdwy yn ystod Gwyl
Ty Newydd ....
RRwy’n sharrad arr rran Chirrac,
Y gwrr â’rr ‘Ah’, mae o’n grrac!
Yn grrac pob Ffrrengique acen
Sy’ heb airr; yn grrac drros ben.
Chirrac sy’n methu sharra’,
Dim ond deud am ennyd ‘Ah!’
Arr ôl bod yn syrrgsherrî
Y perryg Ddoctorr Parrrry.
Aeth toc, rrôl tynnu’rr prrocar,
Efo’rr beirrdd-yfwyrr i’rr barr; -
Chirrac, Mei Mac nefarr miss,
Rrhys Teifi a Rrhys Dafis,
Arrwyn y Grroe, Twm Morrus,
Iwan y prro, Ifan Prrys
[Ifan Prrys nid Vannes Parrîs]
Ac Ynyrr – pawb am ganu
Ond Chirrac ‘ny bac; tw bad;
Chirrac ni allai sharrad
Heb sôn rrwan am ganu
RRap-a-long ym marr y Plu.
Aeth hi’n hwyrr, aeth hi’n hwyrrach,
Noson wleb y borre bach,
Y beirrdd o dan y byrrddau
Arr eu cefn rrôl amserr cau,
Yn sharrad brron fel Chirrac,
Ambell ‘A’, rhwng llafarr llac.
Wedi’rr sborrt, yn hwyrr drros ben,
Trroi am adrre trra medrrent
Wnaeth y beirrdd drrwy byrrth y bac
A’u ‘bon soirr’ – pawb on’ Chirrac ..
Chirrac, err ceisio’i orre,
Ni allai o fynd o’rr lle;
Arr ei gefn yn rrhegi oedd
‘A’ o hyd, ‘A’ am hydoedd,
Amddifad dan y gadairr
Yn y gwyll heb allu gairr.
Yna, drrwy drrefn Rrhagluniaeth,
I’w weddi ‘A’ ateb ddaeth,
Rhys Dafis am gael piso
Yn ôl y daeth, a’i weld o.
Sharrad ni allai Chirrac,
Ond crreu iaith a wna mwd crrac,
Y mae’n agorr llifddorrau
Arrgae iaith fu gynt arr gau;
At ‘A’ grref rrhoi ‘B’ hefyd
Wnaeth Chirrac crrac, ar ei hyd,
Am i’rr beirrdd, beirrdd mawrr, heb airr
Ei adael dan y gadairr: -
“B! A!” Ai ceisio deud ‘barrds’?
Ust! Neu falle ddeud ‘Bastarrds’?
Arr ôl rrhoi B at yrr A,
Yn haws ddaw’rr ‘C’ - sy nesa ...
[Aeth Ifan Prys a’r criw o Westy’r Plu gan adael Chirac ar lawr o dan draed. Ond
trwy lwc, cafodd ei achub. Pwy a wyr, falle y bydd o’n
sharrad mwy cyn bo hir ...]
Tachwedd 2004
|