Deri hyd lannau Dwyryd; - llwyni cyll
yn Nhy Coch a Henryd;
hen wr yn Nant y Gwryd,
felly bu drwy Gymru i gyd.
Cymru i gyd, pob Rhyd, pob Rhos - yn feillion
o Fallwyd i Benrhos,
daear Shîr Gâr dan geirios,
chwys Mair yn ffair yn Nhy’n Ffos.
Ond yn Nhy’n Ffos mae’n nosi, – fel yn Llyn
fel yn Llanymddyfri;
ar y lelog a’r lili,
mae hi’n nos o’i hachos hi.
Hi yw’r achos i’r rhosod – wywo’n grimp
ym Mhen’groes a Manod.
Hi a’i bath yw’r rheswm bod
hyd Arfon flodau’n darfod.
Darfod y mae’r wermod wen, – colli tir
mae’r cyll tew a’r ddraenen,
ar farw mae’r fiaren,
yn eu lle y daeth hi’n llen.
Yn llen, tywyllu’n llwyni, – dwyn ein haul,
dwyn ein holl rosmari
a wnaiff oni chadwn hi
o’r berw’r dwr a’r deri.