|












| |
Cwsg Baban (Cadi Eleri)
Sioned Spencer
Mae'r wên ar dy amrannau
yn brawf o ddedwyddwch brau
dy gwsg distaw ac ysgafn:
ni ddaw'r un gofid i ddafn
o'i felyster a pheraidd
yw, heb lef na chawr na blaidd
i'w deilchio. Heno mae hud
enfys yn lapio'th wynfyd
amdanat a chei swatio
yn nhaw ei rith, am y tro.
Ebrill 2001

|