|












| |
Cwtsh a Chymod
Aneirin Karadog
Yng ngwaed un mae anghydweld
ac oera haul y gorwel
dwl ydy odl y dadlau
yna'n drwch - tawelwch dau.
Yn utgorn anghytgord
neu gān fwyn ā chwyn i'w chord
y cwyd ein nwyd yn nadu -
eto'n drwch -tawelwch du.
Trown ein hwynebau'r tro hwn
o afael wedyn, cofleidiwn,
yn swyn hyn cusanwn ni -
y mae hud mewn cymodi.
Ebrill 2001
|