Cybi
Twm Morys
At ei Garn, a'r gwynt o'i go', - y buom
Yn y baw yn dringo;
Yn ei niwl oer annwyl o
Y bu'n gwledd ddyweddio.
Tachwedd 2000