|












| |
Cysur
Llew Thomas
Mae gennyf, gwn, obsesiwn efo secs.
Rwy'n haliwr ers pan gollais y ffalseto.
A dyna'r rheswm pam rwy'n gwisgo sbecs.
Ond petawn i'n ddall, mi haliwn eto.
Mae gennyf gannoedd o enethod noeth,
Yn pwdu, ac yn gorwedd ar eu hyd,
Genod perffaith, efo cyrff bach poeth;
Rwy'n dod yn barod,a dwi'n gneud dim byd.
Genod reit brofiadol, a morynion,
Genod efo cotiau lledar mawr,
Genod hwyliog efo llwyth o ddynion,
Genod weithiau wedi'u clymu i lawr...
Ond pan 'dan ni'n dau wrthi, ar fy llw,
Rhyw lyfr o dan y gwely ydyn nhw.
Mehefin 2000
|