Dim ond defaid
a chanu catatonig,
stadiwm adfeiliol
ond un gosgeiddig,
dim ond defaid
ac enwogion o fri
a mynyddoedd llymion
syn annwyl i mi,
dim ond defaid
a heniaith ar dafodau
a hanes a thraddodiad
yng nghynysgaeth y bodau.
Ond yn y pen draw
pwy fydd ar ôl
i hiraethun y glaw?
Pwy ond y defaid.