acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

I Dewi Vaughan Pritchard o'r Garn

Twm Morys

Yn ferfa o ddyn, yn farfog,
Yn fawl i gyd, fel y gog,
Ar haul neu law, daw Dewi
I wneud niwl yn dai i ni.
Dewin yw am dy newydd,
Mi wneith o dy mewn wyth dydd,
Ty i fwrw oes, ty o fri,
A’r cerrig fel Tre’r Ceiri.
Gwneud ty o’r beudy y bydd,
A gwneud to rhag naw tywydd.
Gwneud ty i’r hen Gymry gael
Byw ’ma wedyn  heb ’madael.
Gwneud ty, wedi carthu côr,
Addas i fab Llecheiddior.

O Lecheiddior bob bora – daw swn braf,

Nid swn brain yn cega,
Ond chwerthin y Dewin da
A’i farf yn llond y ferfa.

Mai 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)