Pwy yw hwn ar y P.A.,
â chariad yn ei chware?
Heb glec naid ar y Techniks,
un drwg yndangos ei drics.
'Wicked' yw'r gair, yw'r eco
yn y dorf o'i glywed o -
ias wen y mix yn swyno
a'r rhai call yn llwyr o'u co'.
Yn y curo mae cariad,
rhodd yw, rhodd hardd o ryddhad;
oes aur pawb mewn amser pur
yn unsain yn y dawnswyr.
Un galon yw'r calonnau,
yma'n un, a ni’n mwynhau;
un curiad yn gariad gwâr,
yn cynnau'r oriau cynnar.
Unsain yw'r byd, a'i ansawdd
yn symud o hyd yn hawdd
o diwn i diwn; a dyna
dynerwch fel heddwch ha’
yr unwr a'n harweiniodd,
hwn fu yn chware o'i fodd.
Fe lwyddodd pan unodd ni
yn nwyd awen: ein Dewi.