acnvbnr.gif (17863 bytes)


bothafan.gif (2645 bytes)
botcyntedd.gif (2668 bytes)
botgweith.gif (2698 bytes)
botoriel.gif (2634 bytes)
botstydi.gif (2665 bytes)
botpleid.gif (2771 bytes)
botseiat.gif (2605 bytes)
botllyfrym.gif (2804 bytes)
botdolen.gif (2657 bytes)
botgwers.gif (2636 bytes)
botcwis.gif (2617 bytes)
botarchif.gif (1918 bytes)

 

Rhwng Dyddiau Da a Drycin

I Siān a Deian a briodwyd yng nghanol drycin Rhagfyr 2000

Arwel Jones

A'r llinell bell bellach yn bod,
a'r cymylau'n ddyrnau o bapur lapio'n
cael eu cicio gan y gwynt,
fe wawriodd.
Agorwyd cist o aur ar y gorwel
a bwrwyd ohoni
gawodydd o ddiamwntiau
i'w hyrddio
gan chwerthin braf o'r gorllewin gwyllt.

 A goleuadau'r Nadolig
yn cynnau dilyw o ddarnau aur wrth y ffenest
bydd trysorau'n lluwchfeydd hyd y lle
a chawodydd o berlau mān
yn byllau astud wrth y drws
yn gwrando ar raeadrau o aur ac arian byw
yn tincial o wydr i wydr. 

A channwyll y dydd bron yn ei chwyr
cysgwch yn dawel
caewch eich cist
a'i hagor drachefn
rhwng dyddiau da a drycin
a chlosio
a ch'nesu
a chofio.

Chwefror 2001

cnvrule.gif (2354 bytes)